OPIN-2021-0238 Gwrthwynebu'r Bil cenedligrwydd a ffiniau (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/11/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi bod gan Gymru hanes balch o groesawu a'i bod yn dyheu am fod yn Genedl Noddfa.

2. Yn mynegi pryder ynglŷn â system lloches y DU.

3. Yn cydnabod y bydd Bil cenedligrwydd a ffiniau Llywodraeth y DU yn creu system ddwy haen, gan gosbi pobl yn seiliedig ar deithiau a wnânt.

4. Yn nodi bod y Bil yn tanseilio gallu pobl i ailadeiladu eu bywydau ac fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, rhaid i'r DU gynnal cyfraith ryngwladol.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i dynnu'r Bil cenedligrwydd a ffiniau yn ôl a chydweithio i adeiladu system lloches fwy dyngarol.