OPIN-2021-0237 Gwahardd defnyddio asbestos chrysotile (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi bod asbestos yn achosi clefydau diwydiannol, anabledd a marwolaeth pobl yng Nghymru.

2. Yn cydnabod bod asbestos wedi'i wahardd yng Nghymru fel sylwedd peryglus galwedigaethol a chyhoeddus.

3. Yn cefnogi'r ymgyrch ryngwladol i roi terfyn ar gloddio a defnyddio asbestos.

4. Yn mynegi pryder ynghylch yr ymdrechion yn Rwsia a Kazakhstan i gloddio a hyrwyddo cynhyrchion asbestos yn fyd-eang.

5. Yn cefnogi'r ymgyrch yn Wcráin i wahardd defnyddio asbestos chrysotile.

6. Yn annog Senedd Wcráin i wrthsefyll buddiannau corfforaethol a sefydlu gwaharddiad ar unwaith ac yn llwyr ar ddefnyddio asbestos chrysotile yn Wcráin.