OPIN-2021-0236 Cefnogi banciau cymunedol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2021
Y Senedd hon:
1. Yn gresynu at y ffaith mai Barclays yw'r banc diweddaraf i gyhoeddi cau mwy o ganghennu ar y stryd fawr, gan gynnwys canghennau Porthmadog a Chaernarfon.
2. Yn cydnabod bod pobl ac elusennau yn dibynnu ar fanciau'r Stryd Fawr a bod 30 y cant o bobl yng Nghymru am gael mynediad i gangen yn rheolaidd.
3. Yn cydnabod bod 7.5 y cant o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn fwy nag 16km o'u banc agosaf.
4. Yn nodi cyhoeddiad y Llywodraeth i sefydlu banc cymunedol Cymru yn ystod 2021.
5. Yn cydnabod bod Banc Cambria yn anelu at agor canghennau'r stryd fawr yng Nghymru.
6. Yn galw ar y Llywodraeth i gyflymu'r broses o sefydlu Banc Cambria.