OPIN-2021-0235 Pryder ynghylch athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol ar sianeli cyfryngau cymdeithasol (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn mynegi pryder bod athrawon yn cael eu targedu ar gyfer camdriniaeth ar Tik Tok a sianelau cyfryngau cymdeithasol eraill, sy'n effeithio ar eu swyddi a'u hiechyd meddwl.

2. Yn croesawu Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU sy'n ceisio sefydlu trefn reoleiddio newydd i fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon a niweidiol.

3. Yn galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i weithredu yn erbyn cynnwys niweidiol ar eu safleoedd ac i sicrhau bod proses glir ar gyfer adrodd cynnwys er mwyn adfer hyder ynddynt.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ymgyrch genedlaethol ar gam-drin ac amddiffyn ar-lein, yn enwedig mewn ysgolion.