OPIN-2021-0234 Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod ar 25 Tachwedd 2021.
2. Yn galw ar ddynion i gymryd addewid Ymgyrch y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod.