OPIN-2021-0231 Effaith COVID-19 a dyfodol gofal i bobl â chyflwr sy'n peri i’r cyhyrau wanhau yng Nghymru (d) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2021

Mae’r Senedd hon:

1. Yn nodi cyhoeddiad adroddiad Muscular Dystrophy UK, 'Shining a Light', ar effaith COVID-19 a dyfodol gofal i bobl â chyflwr sydd yn peri i’r cyhyrau wanhau yng Nghymru.

2. Yn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig – y cynllun gwarchod a'r tarfu ar apwyntiadau meddygol – wedi ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol pobl â chyflyrau sy'n peri i’r cyhyrau wanhau.

3. Yn cefnogi galwadau Muscular Dystrophy UK’s am flaenoriaethau adferiad tymor byr a thymor hir i wella bywydau pobl yng Nghymru sy’n byw gyda chyflyrau sy'n peri i’r cyhyrau wanhau.