OPIN-2021-0230 Diwrnod Dileu Canser Ceg y Groth Sefydliad Iechyd y Byd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai 17 Tachwedd 2021 fydd pen-blwydd cyntaf y mudiad Dileu Canser Ceg y Groth.
2. Yn cydnabod bod y dyddiad hwn yn nodi pryd y lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd y strategaeth fyd-eang i gyflymu'r broses o ddileu canser ceg y groth fel problem iechyd y cyhoedd.
3. Yn pwysleisio pwysigrwydd sgrinio serfigol a brechiadau HPV o ran atal canser ceg y groth.
4. Yn cydnabod bod mynychu profion serfigol yn bwysig, ond nid yw bob amser yn hawdd.
5. Yn pwysleisio bod Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar bob agwedd ar iechyd serfigol a HPV.