OPIN-2021-0229 Llongyfarchiadau i bobl Somaliland ar etholiadau 2021
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu ac yn llongyfarch pobl Somaliland a'u llywodraeth am gynnal yr etholiadau seneddol a llywodraeth leol yn llwyddiannus ym mis Mai ac ar y trefniadau diogelwch etholiadol.
2. Yn nodi ethol siaradwr newydd, yr Anrhydeddus Abdirisaq Khalif Ahmed, a'i ddirprwyon ar 3 Awst 2021.
3. Yn cymeradwyo Ei Ardderchogrwydd Musa Behi, Llywydd Somaliland/Pleidiau Gwleidyddol Cenedlaethol am eu cydweithrediadau ar y cyd i sicrhau enw da Somaliland fel esiampl o ddemocratiaeth yn Affrica.
4. Yn croesawu cydweithrediad agos rhwng Llywodraeth a Senedd Cymru a Llywodraeth a Senedd Somaliland.