OPIN-2021-0226 Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth 2021 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi y bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y DU ar 18 Hydref 2021 i gydnabod bod dynion, menywod a phlant yn parhau i ddioddef o ganlyniad i'r fasnach gaethweision fodern, er gwaethaf diddymu'r fasnach gaethweision drawsatlantig dros 200 mlynedd yn ôl.

2. Yn cydnabod bod y diwrnod hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon caethwasiaeth fodern, gan gynnwys masnachu mewn pobl a chamfanteisio, ac yn annog pobl i fod yn rhagweithiol yn eu brwydr yn erbyn caethwasiaeth.

3. Yn nodi'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, BAWSO, Sefydliad y Merched, y Soroptimyddion, y Blaid Gydweithredol a sefydliadau trydydd sector eraill, yr heddlu a sefydliadau cyhoeddus i fynd i'r afael â'r mater hwn.