OPIN-2021-0225 Ymchwiliad COVID
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod dros 380,000 o bobl wedi cael canlyniad positif mewn prawf COVID-19 a bod dros 8,000 o bobl wedi marw yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
2. Yn nodi llwyddiant y rhaglen frechu ac yn talu teyrnged i waith gweithwyr a gwirfoddolwyr allweddol.
3. Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliadau cyhoeddus.
4. Yn credu y dylid craffu ar benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i'r penderfyniadau a wneir ganddi hi a chyrff cyhoeddus Cymru cyn ac yn ystod y pandemig.