OPIN-2021-0223 Taliadau newydd ar gyfer deiliaid Cyfrif Banc Clybiau a Chymuned HSBC (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi pwysigrwydd grwpiau cymunedol, clybiau ac elusennau bach wrth gefnogi ein cymunedau.

2. Yn credu bod mynediad fforddiadwy a chyfleus i wasanaethau bancio yn ganolog i'w gallu i fod yn effeithiol yn ein cymunedau.

3.Yn pryderu ynghylch penderfyniad HSBC Bank plc i symud deiliaid Cyfrif Banc Clybiau a Chymuned HSBC yn i Gyfrif Banc Elusennol sy'n codi £60 y flwyddyn.

4. Yn siomedig y bydd y Cyfrif Banc Elusennol hefyd yn codi tâl ar gwsmeriaid i roi arian i mewn a thynnu arian allan mewn cangen banc neu Swyddfa'r Post.

5. Yn galw ar HSBC Bank Plc i wrthdroi ei benderfyniad.

Tanysgrifwyr