OPIN-2021-0222 Diolch i drefnwyr a gwirfoddolwyr parkrun Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn diolch i drefnwyr a gwirfoddolwyr parkrun yng Nghymru am ei wneud yn llwyddiant ysgubol.
2. Yn cydnabod y manteision enfawr sydd gan parkrun ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol – a'i botensial i ddod â chyfleoedd rhagnodi cymdeithasol ledled Cymru.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau eraill i weithio gyda parkrun Cymru i hyrwyddo parkrun yn rhagweithiol ledled Cymru.