OPIN-2021-0221 Tirwedd llechi Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu pennu tirwedd llechi Cymru yn 33ain Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU.

2. Yn cydnabod y 1,800 mlynedd o gloddio llechi, y bobl, y diwylliant a'r iaith, a sut y gwnaeth y dirwedd honno wneud toi adeiladau'r byd yn y 19eg ganrif.

3. Yn llongyfarch yr holl sefydliadau ac unigolion sy'n ymwneud â phrosiect Llechi Cymru, ac yn cydnabod y cyfraniad aruthrol a wnaed i'r ardal, ac i Gymru.

4. Yn cydnabod treftadaeth fel grym er lles yng Nghymru, ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.