OPIN-2021-0220 Idiopathic Pulmonary Fibrosis (IPF) Week (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu Wythnos Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint (IPF) rhwng 20 a 26 Medi 2021.

2. Yn nodi bod ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint yn gyflwr prin ac anwelladwy sy'n cyfyngu ar fywyd, yn arwain at glefyd ac yn achosi creithiau cynyddol ar yr ysgyfaint gyda graddfa goroesiad canolrifol o dair blynedd yn unig;

3. Yn nodi'r corff cynyddol o dystiolaeth y gall darparu triniaeth adsefydlu ysgyfeintiol wedi'i theilwra ar gyfer cleifion ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint gyfrannu'n sylweddol at wella ansawdd bywyd;

4. Yn cefnogi gwaith Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i godi ymwybyddiaeth o ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint ac adsefydlu ysgyfeintiol.

5. Yn galw am fynediad at adsefydlu ysgyfeintiol ledled Cymru i gleifion â ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint i wella'u diffyg anadl a'u llesiant.