OPIN-2021-0219 Hawl i fwyd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod bron i chwarter pobl yng Nghymru mewn tlodi.
2. Yn nodi ymhellach fod y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu.
3. Yn cydnabod ymhellach ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl.
4. Yn credu bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes neb yn mynd yn llwglyd a bod yr hawl i fwyd wedi'i hymgorffori yng nghyfraith Cymru er mwyn gwneud y rhwymedigaeth hon yn glir.