OPIN-2021-0218 Cymru a Chiwba (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn mynegi ei undod â phobl Ciwba.

2. Yn nodi bod 185 o wledydd wedi pleidleisio yn erbyn blocâd yr Unol Daleithiau ar Giwba yn y Cenhedloedd Unedig, gyda dim ond UDA ac Israel yn cefnogi ei barhad.

3. Yn nodi ymhellach bod y polisi annynol hwn wedi bod ar waith ers dros 60 mlynedd gan achosi prinder difrifol o fwyd, meddyginiaethau a thanwydd.

4. Yn cydnabod, er gwaethaf y blocâd, fod Ciwba wedi cyflawni llawer ym maes polisi iechyd ac addysg a bod y canlyniadau wedi'u cymeradwyo'n eang gan UNESCO a Sefydliad Iechyd y Byd.

5. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cysylltiadau gyda Chiwba mewn meysydd y mae gan y dwy wlad ddiddordeb ynddynt.