OPIN-2021-0217 Chwiroydd Greenham - Cydnabyddiaeth
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi ei fod yn 40 mlynedd ers i chwiorydd o Gymru deithio i Gomin Greenham er mwyn datgan eu gwrthwynebiad i osod arfau niwclear yno.
2. Yn cydnabod fod chwiorydd Greenham wedi bod yn allweddol yn yr ymdrech i wrthwynebu arfau niwclear, ac i sbarduno cenhedlaeth o fenywod i weithredu yn wleidyddol.
3. Yn cofio Helen Thomas a laddwyd yng Nghomin Greenham, ac yn diolch am ei bywyd.
4. Yn diolch i chwiorydd Comin Greenham am eu haberth ac yn ategu neges y chwiroydd: ni ellir lladd eu hysbryd.