OPIN-2021-0214 Cymorth i'n GIG a'r rhai sy'n aros yn hirach am driniaeth
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 13/07/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn mynegi ei diolch am ymrwymiad a chyfraniad eithriadol staff iechyd a gofal cymdeithasol drwy'r pandemig a thu hwnt.
2. Yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu lleihau amseroedd aros y GIG yn ddiogel, sydd wedi cynyddu yn ystod y pandemig ac effaith amseroedd aros hwy ar gleifion, gan gynnwys y rhai â chyflyrau hirdymor fel arthritis, y mae llawer ohonynt yn aros gyda phoen sy'n gwaethygu ar gyfer ymyriadau orthopedig hanfodol.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu a chymorth, gan gynnwys adsefydlu / rhagflaenu a argymhellir gan yr ymgyrch hawl i adsefydlu, i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol pobl ar restrau aros hirach.