OPIN-2021-0213 Mynd i'r afael â hiliaeth mewn chwaraeon
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn gresynu at gam-drin hiliol chwaraewyr tîm pêl-droed Lloegr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ar gyfryngau cymdeithasol a chan rannau o'r dorf yn rownd derfynol pencampwriaeth yr Ewros yn erbyn yr Eidal.
2. Yn galw ar weithredwyr cyfryngau cymdeithasol i gymryd cyfrifoldeb a gwahardd camdrinwyr o'u platfformau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i ymladd hiliaeth a dileu gwahaniaethu mewn chwaraeon.