Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod na all Llywodraeth Cymru ddatrys seiberdroseddu ar ei phen ei hun, a bod angen gweithio gyda grwpiau a sefydliadau i ddelio â'r mater hwn.
2. Yn cytuno bod cannoedd o filoedd o ddyfeisiau'n cael eu cyfaddawdu bob dydd.
3. Yn deall pwysigrwydd cydweithio i frwydro i ddileu troseddu cyfundrefnol, meithrin perthnasau amhriodol a thwyll.
4. Yn cydnabod yr angen i addysgu plant ac addysgwyr am beryglon y rhyngrwyd a diogelwch.
5. Yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i gryfhau diogelwch cynhyrchion sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd.
6. Yn cefnogi polisi seiberfwlio'r Cenhedloedd Unedig a'i ymchwil.
7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i dynhau ymhellach y cyfreithiau sy'n ymwneud â seiberdroseddu.