OPIN-2021-0211 Brechlyn y Bobl (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi:

a) ymdrechion arwrol staff a gwirfoddolwyr y GIG i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni mwyaf llwyddiannus ar gyfer darparu brechlynnau COVID-19 yn y byd;

b) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymrwymo Cymru i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang;

c) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r costau iechyd ac economaidd uchaf o ganlyniad i COVID-19, a bydd ansicrwydd a risg yn parhau i ni i gyd nes bod y gwaith o roi'r brechiad yn fyd-eang wedi'i gwblhau.

2. Yn galw ar Brif Weinidog y DU i hepgor rheolau eiddo deallusol, gan rannu gwybodaeth am frechlynnau a thechnoleg gyda Phwll Mynediad Technoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd o ran cynhyrchu brechlynnau sy'n achub bywydau.