OPIN-2021-0210 Dathlu 50 Mlynedd Mudiad Meithrin
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod y Mudiad Meithrin yn dathlu penblwydd yn 50.
2. Yn nodi ymhellach mai cenhadaeth a phwrpas ei waith yw defnyddio’r blynyddoedd cynnar fel cyfrwng i greu siaradwyr Cymraeg newydd o blith plant na fyddai’n siarad Cymraeg fel arall.
3. Yn credu bod y profiad o wneud hynny a dysgu drwy chwarae yn hollbwysig.
4. Yn credu mai gwaddol mwyaf y Mudiad yw na fydd mo’i angen ryw ddiwrnod, pan bydd ein cyfundrefn gofal ac addysg yn darparu’r gefnogaeth orau posib i’r plant lleiaf yn awtomatig drwy gyfrwng y Gymraeg.
5. Yn dymuno penblwydd hapus i’r Mudiad yn 50.