OPIN-2021-0208 Wythnos Hosbisau Plant
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Wythnos Hosbisau Plant yn cael ei chynnal yr wythnos hon;
2. Yn cymeradwyo gwaith hanfodol Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith i ddarparu gofal lliniarol i blant sydd â salwch terfynol yng Nghymru, a chymorth emosiynol a seibiant i'w teuluoedd;
3. Yn nodi bod hosbisau yng Nghymru yn cael 5 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, tra bod y llywodraeth yn ariannu 21 y cant o gostau hosbisau yn Lloegr, 25 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 50 y cant yn yr Alban.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'r fformiwla ariannu er mwyn sicrhau bod hosbisau yng Nghymru yn cael eu hariannu'n briodol.