OPIN-2021-0207 Diwrnod Aer Glân 2021 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi:

a) mai 17 Mehefin 2021 yw diwrnod aer glân;

b) gwaith Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i Gymru o ran darparu tystiolaeth ar gyfer newid;

c) ymrwymiad trawsbleidiol pob un o'r 4 plaid yn eu maniffestos i gyflwyno Bil aer glân.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil aer glân eleni i:

a) annog pobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel gyda phwyntiau gwefru cyflym i gymryd lle cerbydau sy'n fwy llygredig;

b) creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd;

c) caniatáu offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

d) galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd.