OPIN-2021-0204 Pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru cyn Ewro 2020
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn dymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru cyn Pencampwriaeth Ewropeaidd y dynion sy'n dechrau ddydd Gwener 11 Mehefin 2021.
2. Yn cefnogi tîm Robert Page yn frwd yn gêm agoriadol y twrnament yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn 12 Mehefin 2021 a'u gemau cyfnod grŵp eraill yn erbyn Twrci a'r Eidal.
3. Yn cofio arwyr Euro 2016 a sut cafodd y gwlad gyfan ei ysbrydoli gan daith Cymru i'r rowndiau cynderfynol a sut y daeth hyn â llawenydd mawr i'r wlad.