OPIN-2021-0203 Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Ad-drefnu Uwch Gynghrair Menywod Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn cefnogi pêl-droed clwb i fenywod yng Nghymru, a thîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru, fel elfennau pwysig o hunaniaeth chwaraeon Cymru.

2. Yn cydnabod y rôl y mae clybiau pêl-droed yn ei chwarae yn eu cymunedau lleol, o lawr gwlad i fyny.

3. Yn nodi â phryder y ffordd y gwnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei phenderfyniad diweddar i ailstrwythuro Uwch Gynghrair Menywod Cymru ar gyfer y tymor nesaf.

4. Yn credu y dylai penderfyniadau o'r fath fod yn seiliedig ar deilyngdod chwaraeon a'u gwneud mewn ffordd deg, agored a thryloyw gan wneud y rhesymu'n glir i glybiau cyn gynted â phosibl.