OPIN-2021-0201 Atal y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi pryder mawr ynghylch y gwrthdaro a cholli bywyd ym Mhalesteina ac Israel.
2. Yn galw am gadoediad a rhoi'r gorau i'r ymladd ar unwaith o ystyried faint o fywydau sy'n cael eu colli yn Gaza.
3. Yn credu bod cryfder milwrol llethol Israel yn golygu bod ganddi gyfrifoldeb i ddangos ymreolaeth.
4. Yn cefnogi ailgychwyn trafodaethau i sicrhau heddwch parhaus ac ateb parhaol i'r gwrthdaro hirsefydlog.