OPIN-2021-0198 Protestio Heddychlon (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2021

Mae'r Senedd hon:

a) yn nodi hynt Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd drwy Senedd y DU;

b) yn gofyn i Aelodau'r Senedd gydnabod y bydd y pwerau newydd i gwtogi protest heddychlon yn gadael Cymru mewn sefyllfa wannach na'r rhan fwyaf o wladwriaethau democrataidd yn Ewrop;

c) yn cydnabod y rôl hanfodol y gall protest heddychlon ei chwarae er mwyn tynnu sylw at anghyfiawnder a chodi lleisiau ymylol;

d) yn annog comisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru i alluogi protest heddychlon yng Nghymru.