Mae'r Senedd hon: 
a) yn cydnabod bod menywod yn profi aflonyddu, camdriniaeth, trais a thrais rhywiol yn rheolaidd;  
b) yn nodi bod y term menywod yn cynnwys pawb sy'n uniaethu fel menyw;  
c) yn cydnabod bod angen i ddynion newid eu hymddygiad er mwyn mynd i'r afael â'r cam-drin hwn;  
d) yn annog dynion i gymryd addewid y Rhuban Gwyn a herio casineb a gelyniaeth tuag at fenywod ymhlith eu cyfoedion;  
e) yn gresynu at weithredoedd yr Heddlu Metropolitan wrth blismona gwylnos heddychlon yn Clapham ar gyfer Sarah Everard;  
f) yn credu y gallai plismona o'r fath danseilio hyder menywod i roi gwybod i'r heddlu am achosion;  
g) yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog unigolion a sefydliadau, gan gynnwys yr Heddlu, i lofnodi addewid y Rhuban Gwyn.
        
 
                         
                         
             
         
         
         
         
         
         
         
         
         
         
         
         
         
        