OPIN-2020-0188 Gweithredu dros y gaeaf ar dlodi plant
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020
Mae'r Senedd hon:
a) yn nodi bod gwledydd eraill y DU yn darparu cymorth ychwanegol i blant, teuluoedd a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y gaeaf eithriadol o anodd hwn;
b) yn cydnabod bod Cymru wedi arwain y ffordd drwy ei hymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol a'r cyfyngiadau symud cenedlaethol;
c) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gefnogaeth, fel y gall plant gadw'n gynnes a chael eu bwydo'r Nadolig hwn a thrwy gydol y gaeaf.