OPIN-2020-0183 Diwrnod clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint 2020 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2020

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu'r cyfle i dynnu sylw at glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint drwy ddiwrnod clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ar 18 Tachwedd 2020.

2. Yn nodi bod dros 76,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, grŵp o gyflyrau'r ysgyfaint sy'n achosi anawsterau anadlu.

3. Yn deall mai ymarfer corff a hunanreoli, fel adsefydlu ysgyfeintiol, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd bywyd rhywun.

4. Yn dathlu canlyniadau rhaglen hunanreoli Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, 'Helping you, Help yourself'.

5. Yn ceisio gweithredu argymhellion adroddiad Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ‘Living, Breathing, Learning’, drwy gynyddu mynediad at adsefydlu ysgyfeintiol ac yn cefnogi'r ymgyrch ar yr hawl i adsefydlu.