OPIN-2020-0182 Ymwelwyr proffesiynol gweithwyr cymdeithasol
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2020
Mae'r Senedd hon:
a) yn credu bod gweithwyr cymdeithasol yn rhan annatod o sicrhau llesiant preswylwyr cartrefi gofal ac y dylid eu trin fel ymwelwyr proffesiynol sydd â mynediad corfforol i gleifion i gyflawni eu dyletswyddau statudol ac anstatudol;
b) yn cefnogi galwad BASW Cymru i brofi pob ymwelydd proffesiynol gweithiwr cymdeithasol dynodedig ar gyfer COVID-19 yn wythnosol;
c) yn credu bod yn rhaid rhoi mynediad blaenoriaeth i weithwyr cymdeithasol i bobl mewn lleoliadau gofal, iechyd a byw â chymorth drwy brofion, rheoli heintiau'n drylwyr a mynediad i PPE;
d) yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn ei chael yn anodd cynnal asesiadau galluedd meddyliol heb fynediad i leoliadau gofal ac iechyd.