OPIN-2020-0176 Addewid ynghylch Gwlân o Gymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2020

Mae'r Senedd hon:
a) yn gresynu at y ffaith bod ffermwyr wedi cael cyn lleied â 28c y cnu, sy'n llai na chost cneifio – cost na ellir ei hosgoi;
b) yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried defnyddio gwlân yn ehangach yn ei hystâd;
c) yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwneud defnyddio gwlân o Gymru yn orfodol mewn adeiladau domestig a cyhoeddus, helpu ffermwyr i ddatblygu'r farchnad inswleiddio gwlân ymhellach ac annog y diwydiant ffasiwn i ddefnyddio gwlân o Gymru; a
d) yn rhoi addewid i wneud popeth posibl i hyrwyddo defnyddio gwlân o Gymru.