OPIN-2020-0170 Cefnogi Apêl Codi Arian Coronafeirws DEC (y Pwyllgor Arfyfyngau) Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2020

Mae'r Senedd hon:

1. Yn cydnabod y problemau a'r trafferthion sy'n cael eu hwynebu yn rhai o wledydd mwyaf bregus y byd fel Yemen, Syria, Somalia, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, mewn ymateb i'r pandemig y coronafeirws.

2. Yn cymeradwyo'n llawn apêl codi arian coronafeirws DEC Cymru a bydd yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ri cyhoeddusrwydd iddi ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth.

3. Yn annog unigolion a sefydliadau ledled Cymru i gyfrannu at yr apêl - gan gefnogi'r rhai sydd mewn gwersylloedd i ffoaduriaid a phobl wedi eu dadleoli, lle mae'r mynediad at ofal meddygol, dŵr glân a digon o fwyd yn brin iawn.