OPIN-2020-0169 Cadw Staff Siopau Betio'n Ddiogel yn y Pandemig Covid-19
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2020
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod siopau betio wedi cael caniatâd i ailagor yng Nghymru er nad ydynt yn wasanaethau manwerthu nac yn rhai hanfodol.
2. Yn cydnabod yr her o gynnal ymbellhau cymdeithasol oherwydd yr arfer o "aros" am amser hir gan gwsmeriaid i wylio'r setiau teledu a defnyddio peiriannau hapchwarae.
3. Yn nodi nad oes canllawiau wedi'u cyhoeddi i hyrwyddo gweithredu siopau betio'n ddiogel yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu ar frys a ddylai siopau betio aros ar agor; a
b) cyhoeddi canllawiau brys i gyfyngu ar y defnydd o setiau teledu a pheiriannau betio ods sefydlog yn ystod y pandemig.