OPIN-2020-0168 Gofal Plant ar gyfer Gweithwyr Allweddol (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/07/2020

Mae'r Senedd hon:

a. yn nodi'r cyfraniad enfawr ac anfesuradwy sydd wedi cael ei wneud ac yn parhau i gael ei wneud gan weithwyr allweddol yn ystod pandemig Covid-19.

b. yn cydnabod yr angen parhaus am ofal plant i rai gweithwyr allweddol yn ystod gwyliau haf yr ysgol, yn enwedig staff y GIG a gofal cymdeithasol sydd hefyd yn ymwneud â gwaith hanfodol i ddal i fyny â gweithgarwch y GIG a gafodd ei atal yn ystod y pandemig.

c. yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eglurder a chyllid ar frys i awdurdodau lleol i'w galluogi i gynnig darpariaeth gofal plant briodol ar gyfer gweithwyr allweddol hanfodol y mae ei angen arnynt yn ystod y gwyliau ysgol.

Cyflwynwyd gan