OPIN-2020-0167 Transform Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2020
Mae'r Senedd hon:
a) yn croesawu gweledigaeth Transform Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru ar ôl y cyfyngiadau symud;
b) yn cefnogi'r nod o gael rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy, fforddiadwy, cynhwysol a diogel sy'n diwallu anghenion pob teithiwr waeth beth yw eu hoed, cefndir neu allu;
c) yn galw ar Lywodraeth Cymru i achub ar y cyfle hwn i sbarduno newid moddol;
d) yn cydnabod yr her i drafnidiaeth gyhoeddus ac yn cefnogi'r alwad ar i Lywodraeth Cymru gymryd camau i ddeall ymddygiad ac adfer hyder y cyhoedd;
e) yn cytuno y dylid cymryd camau i hyrwyddo datrysiadau trafnidiaeth arloesol, creu lle ar gyfer cerdded a beicio a sicrhau trafnidiaeth hygyrch i bawb.