OPIN-2020-0166 Wythnos y Lluoedd Arfog 2020 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2020

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi Wythnos y Lluoedd Arfog 2020 a Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 27 Mehefin 2020.

2. Yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

3. Yn diolch i'r fyddin am eu hymdrechion yn ystod y pandemig coronafeirws.

4. Yn croesawu gwaith Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru wrth gefnogi'r gwaith o gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog.

5. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn dod i ben ym mis Mawrth 2021.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i arddangos ymhellach ei hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy gyllid hirdymor ar gyfer swyddi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru.