OPIN-2020-0165 Diwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol y Tadau (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2020

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu Diwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol y Tadau (22 Mehefin 2020).

2. Yn cydnabod bod un o bob deg o dadau yn profi problemau iechyd meddwl amenedigol, sydd wedi dwysáu yn ystod Covid-19, ond sy'n cael eu hanwybyddu'n aml.

3. Yn nodi bod materion iechyd meddwl i dadau, heb y cymorth cywir, yn ei gwneud yn anodd iddynt feithrin cysylltiad â'u baban a gofalu amdano.

4. Yn cefnogi ymgyrch yr NSPCC, Brwydro dros Ddechrau Teg (Fight for a Fair Start), sy'n anelu at sicrhau bod pob rhiant yn cael cymorth iechyd meddwl amenedigol fel y gall pob babi gael dechrau teg.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tadau newydd/darpar dadau yn cael cynnig asesiadau a chymorth iechyd meddwl amenedigol.