OPIN-2020-0164 Amaethgoedwigaeth
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2020
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod yr angen brys i gynyddu coed ar ffermydd i helpu i liniaru'r argyfwng deuol o ran yr hinsawdd ac ecoleg.
2. Yn nodi y gall mwy o amaethgoedwigaeth:
a. Lleihau llifogydd;
b. Lleihau colli pridd;
c. Diogelu a chynyddu storfeydd carbon;
ch. Adfer cynefinoedd dŵr croyw;
d. Cynyddu cynefinoedd;
dd. Cynorthwyo cynaliadwyedd amaethyddol a diogelwch bwyd.
3. Yn nodi y gallai ffermwyr, gyda'r cymorth cywir i gadw ac ymestyn "Gwrychoedd a Lleiniau", gyflawni hanner targedau gorchudd coed Cymru, gan ddefnyddio llai na phedwar y cant o'u tir.
4. Yn credu y dylai polisi amaeth newydd fod yn llawer mwy cefnogol i amaethgoedwigaeth, ac nid cosbi ffermwyr am gael coed ar eu tir.