OPIN-2020-0163 Wythnos Gofalwyr 2020: Gwneud Gofalu'n Weladwy (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2020

Mae'r Senedd hon:

a) yn nodi Wythnos Gofalwyr 2020 (8 – 14 Mehefin);

b) yn cydnabod pwysigrwydd gofalwyr di-dâl ac yn gwerthfawrogi eu gwaith;

c) yn cydnabod bod llawer o ofalwyr di-dâl yn gofalu y tu ôl i ddrysau caeedig ac yn cymryd cyfrifoldebau gofalu ychwanegol yn ystod y pandemig;

d) yn croesawu taliadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i staff gofal ond yn credu y dylent wneud cyflogau'n uwch yn barhaol;

e) yn credu y dylai unrhyw daliad untro fod ar gael i'r holl staff sy'n gweithio mewn lleoliad cartref gofal, gan gynnwys staff glanhau ac arlwyo sy'n rhoi eu diogelwch eu hunain mewn perygl bob dydd pan fyddant yn mynd i'r gwaith;

f) yn mynegi siom bod Trysorlys y DU yn bwriadu trethu bonws arfaethedig £500 Llywodraeth Cymru.