OPIN-2020-0162 Mae'r Senedd hon yn gryf o blaid gorsafoedd radio lleol yng Nghymru. (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2020

Mae'r Senedd hon

a) yn cefnogi gorsafoedd radio lleol yng Nghymru yn frwd.

b) yn credu:

(i) bod gorsafoedd radio lleol yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau lleol, gan hyrwyddo elusennau lleol, gweithgareddau chwaraeon ac ymatebion lleol i ddigwyddiadau cenedlaethol;

(ii) y dylai mwyafrif eu rhaglenni gael eu cynhyrchu'n lleol ar gyfer gorsafoedd radio lleol;

(iii) bod pryderon difrifol am y cynigion ar gyfer Sain Abertawe ac yn galw ar y perchenogion i ailystyried eu cynigion presennol er mwyn newid ffocws lleol yr orsaf a'i ddisodli â chynnwys syndicetiedig â gorsafoedd eraill yn Lloegr, gan leihau cynnwys lleol a ffocws yr orsaf hon yn sylweddol.