OPIN-2020-0161 Bywydau Du yn Cyfri (Black Lives Matter)
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2020
Mae'r Senedd hon:
a. Yn condemnio lladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau drwy ddwylo grym gormodol a thrais yr heddlu.
b. Yn cydnabod yr anghyfiawnder a'r gwahaniaethu hiliol y mae Americanwyr Affricanaidd a holl bobl o liw yn eu hwyneb bob dydd yn yr Unol Daleithiau.
c. Yn cydnabod yr anghyfiawnder a'r gwahaniaethu hiliol y mae pobl a chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, y DU ac mewn llawer o rannau eraill o'r byd yn eu hwynebu.
ch. Yn condemnio'r defnydd o drais yr heddlu neu drais milwrol yn erbyn protestwyr.
d. Yn cefnogi ac yn annog pawb i gefnogi ymgyrchoedd yn erbyn hiliaeth, anghyfiawnderau hiliol a gwahaniaethu, neu ymuno yn yr ymgyrchoedd hynny.