OPIN-2020-0152 Gofalwyr Ifanc
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 28/01/2020
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi y cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc ar 30 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod y cyfraniadau sylweddol a wneir gan ofalwyr ifanc ledled Cymru.
3. Yn credu y dylai pob gofalwr ifanc gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach a boddhaus.
4. Yn cefnogi nodau 'Minnau hefyd! Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru', sef ymgyrch sy'n tynnu sylw at yr angen i bob darparwr addysg sicrhau eu bod yn gallu canfod pwy sy'n ofalwyr ifanc a'u cefnogi'n effeithiol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni yn erbyn yr argymhellion a wnaed gan Estyn ym mis Mai 2019 a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2019.