OPIN-2020-0151 Erasmus
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn dathlu'r manteision enfawr y mae Erasmus yn eu cynnig i bobl ifanc mewn prifysgolion, addysg bellach, ysgolion, addysg oedolion, a'r gwasanaeth ieuenctid.
2. Yn cydnabod nad yw cyfranogiad parhaus yn y rhaglen astudio dramor mewn unrhyw ffordd yn anghydnaws â gadael yr UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth posibl i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad parhaus i'r DU yn Erasmus.