OPIN-2019-0142 Carcharu arweinwyr gwleidyddol a dinesig Catalonia
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
a) yn mynegi pryder ar ran pobl Cymru ynghylch gweithredoedd gwladwriaeth Sbaen yn carcharu 12 o arweinwyr gwleidyddol a dinesig Catalonia am gyfnodau sy'n amrywio rhwng 9 mlynedd a 13 mlynedd;
b) yn gwrthod y cynnig bod dwyn cyhuddiadau troseddol yn ffordd o ddatrys gwahaniaethau gwleidyddol;
c) yn nodi bod yr hawl i hunanbenderfyniad yn hawl ddynol sylfaenol;
d) yn sefyll mewn undod â'r arweinwyr sydd wedi'u carcharu yng Nghatalonia a phobl Catalonia;
e) yn galw am ddirymu'r dedfrydau hyn ac i Lywodraeth Sbaen gymryd rhan mewn proses drafod briodol a pharchus gyda Llywodraeth Catalonia.