OPIN-2019-0131 Gwrthwynebu Cynlluniau'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal i gynyddu ffioedd cofrestru 18 y cant o fis Hydref 2019
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn gresynu bod y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn bwriadu cynyddu ei ffioedd cofrestru 18 y cant o fis Hydref 2019.
2. Yn credu bod y cynnydd hwn, i bob pwrpas, yn dreth ar ymarfer, gan fod yn rhaid i'r rhai a reoleiddir gan y Cyngor dalu'r ffi flynyddol hon er mwyn gweithio.
3. Yn nodi bod hyn yn effeithio ar amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys 23,000 o seicolegwyr ymarferwyr, gyda 800 o'r rhain yn ymarfer yng Nghymru.
4. Yn gresynu y bydd y cynnydd yn golygu y bydd ffioedd y Cyngor wedi codi 40 y cant ers 2014; sy'n gynnydd afresymol a gormodol.
5. Yn galw ar y Cyngor i ailystyried y cynnydd hwn ar frys.