OPIN-2018-0118 Canserau llai goroesadwy
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 12/12/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn mynegi pryder ynghylch cyfradd goroesi gwael y canserau llai goroesadwy yng Nghymru o bum mlynedd, sef cyfartaledd o dim ond 16 y cant ac yn galw ar GIG Cymru i fabwysiadu targed goroesi newydd o 32 y cant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag elusennau, darparwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella ymwybyddiaeth, diagnosis cynnar, triniaeth, gwaith ymchwil a chanlyniadau canserau llai goroesadwy ledled Cymru.