Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod effaith y rhyfel yn Yemen, yn enwedig nifer uchel y marwolaethau ymhlith sifiliaid, yr argyfwng bwyd sy'n gwaethygu a honiadau o droseddau rhyfel.
2. Yn anghytuno â'r cymorth gwleidyddol parhaus y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i'r gyfundrefn Saudi, a'i chydgynllwynio o ran cyflenwi arfau i'r ymyrraeth anfoesegol a arweinir gan Saudi.
3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu cymorth ar gyfer teuluoedd Yemini Cymru sydd wedi'u gwahanu gan y gwrthdaro, gan gynnwys mwy o gymorth iechyd meddwl.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i fynnu bod Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn ar werthu arfau i'r gyfundrefn Saudi ac yn annog dychwelyd at drafodaethau heddwch a noddir gan y Cenhedloedd Unedig i roi terfyn ar y gwrthdaro.