OPIN-2018-0108 Diwrnod Adfywio Calon (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod mai dydd Mawrth 16 Hydref yw Diwrnod Adfywio Calon, pan fydd llawer yn dysgu adfywio cardio-pwlmonaidd a sgiliau diffibriliwr.
2. yn nodi bod llai na 1 o bob 10 o bobl yng Nghymru yn goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty a chynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod ar waith ers mis Mehefin 2017.
3. yn croesawu cynlluniau BHF Cymru, St John Cymru a'r Groes Goch Brydeinig yng Nghymru, sy'n dysgu adfywio cardio-pwlmonaidd i blant ledled Cymru, gan greu cenedl o achubwyr bywyd.
4. yn cydnabod y rôl hanfodol y mae pobl ifanc yn ei chwarae o ran achub bywydau ac yn nodi, dros y flwyddyn ddiwethaf, fod miloedd o blant oed uwchradd wedi dysgu adfywio cardio-pwlmonaidd drwy eu cynlluniau hyfforddiant.